Cefndir y HDC

Ein nod yw Gwasanaethu tyfwyr Prydain drwy fod yn hwyluswyr penigamp, yn effeithiol a blaengar mewn ymchwil a datblygu garddwriaethol agos at y farchnad ar trosglwyddo technoleg syn gysylltiedig hynny. Dylair Cwmni gynnig gwerth amlwg am arian a chael ei barchu fel un syn gwneud cyfraniad pwysig i broffidioldeb y diwydiant garddwriaethol ym Mhrydain.Maer Cwmni Datblygu Garddwriaethol (HDC) yn is-adran or corff lefi statudol, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) syn gweinyddu casglu lefi ddiwydiant i dalu am waith ymchwil a datblygu hanfodol ger y farchnad er budd Garddwriaeth y DU.Y doll a gesglir ir rhan fwyaf o gnydau yw 0.5% or trosiant blynyddol, ac eithrior diwydiant madarch. Yn 2006/7 cyfanswm y doll a gasglwyd oedd 4.9 miliwn. Am ragor o wybodaeth gweler y tudalennau Lefi.Gyda chyfrifoldeb dros 300 o gnydau yn y diwydiant garddwriaethol, maer Cwmni yn edrych ar l y gwahanol fuddiannau cnwd drwy saith Panel Sector:

  Bylbiau a Blodau y Tu Allan
  Llysiaur Maes
  Stoc Meithrinfa Caled
  Madarch
  Cnydau a Warchodir
  Ffrwythau Meddal
  Ffrwythaur Coed

Ymchwil a arweinir gan y diwydiant

Er mwyn gwneud yn siŵr fod yr Ymchwil ar Datblygu agos at y farchnad ar y trywydd iawn i gwrdd ag anghenion diwydiant, mae tyfwyr a ffermwyr yn chwarae rhan hanfodol mewn gosod strategaethau ymchwil ym mhob un or sectorau cnwd ac yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer prosiectau ymchwil unigol.

Ffynhonnell gwybodaeth dechnolegol

Fel bod diwydiant yn gweld gwir fantais yr ymchwil hwn maen hollbwysig fod y canlyniadaun cael eu cyfleu mewn ffordd effeithiol ac amserol. Maer HDC yn cyflawni hyn drwy drefnu digwyddiadau ir diwydiant i roir diweddaraf iw Aelodau ar unrhyw gynnydd mewn ymchwil a datblygu. Yn ogystal, maer HDC yn cyhoeddi ystod o ffeithlenni, DVDs hyfforddi, siartiau wal, canllawiau cerddwyr cnydau, rhaglenni meddalwedd yn ogystal HDC News, misolyn y Cwmni. 

back to top of page

Members

 Remember me

Change type size

smallest type sizemedium type sizelarge type size

About the HDC  |  Membership  |  Levy  |  Contractors   |  Industry Links  |  Contact HDC  |  Home